Mae’r Pentagon wedi gohirio ymarferiad milwrol gyda De Corea ym mis Awst.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cytundeb rhwng Donald Trump ac arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un yn yr uwch-gynhadledd yn Singapôr yn ddiweddar.

Mae ymarferion o’r fath wedi cael eu cynnal yn rheolaidd ym mis Awst bob blwyddyn, fel rhan o ymrwymiad llywodraeth America i ddiogelu De Corea rhag ymosodiadau gan y Gogledd.

Dywedodd Donald Trump yn union wedi’r uwch-gynhadledd fodd bynnag y byddai rhoi’r gorau iddyn nhw’n arbed llawer o arian.

Mae’r cadarnhad gan y Pentagon yn dilyn trafodaethau rhwng llywodraethau America a De Corea dros yr wythnosau diwethaf.