Mi fydd athletwyr Gogledd a De Corea yn cydgerdded yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Asiaidd yn Indonesia fis Awst.

Yn ôl cyhoeddiad gan Weinyddiaeth Chwaraeon De Corea, maen nhw wedi dod i gytundeb â Gogledd Corea ynglŷn â’r mater yn ystod trafodaethau ym mhentre’r ffin, Panmunhom, ddydd Llun (Mehefin 18).

Mae’r ddwy wlad hefyd wedi cytuno i ffurfio tîm unedig ar gyfer rhai digwyddiadau yn ystod y Gemau.

Mi fydd hefyd gemau cyfeillgar o bêl-fasged yn cael eu cynnal rhwng  y ddwy yn Pyongyang a Seoul yn ystod y misoedd nesa’.

Daw’r cytundeb hwn ychydig ddiwrnodau ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ac arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un gwrdd mewn uwchgynhadledd hanesyddol yn Singapore.

Dyma’r tro cynta’ i’r ddau arweinydd gyfarfod wyneb yn wyneb, ac fe gytunodd y Gogledd y byddai’n ceisio rhoi gorau i’w harfau niwclear yn y dyfodol.