Mae hunanfomiwr wedi lladd o leiaf 14 o bobol yn ninas Jalalabad yn nwyrain Afghanistan.

Dyma’r ail ymosodiad mewn deuddydd yn targedu milwyr y Taliban, lluoedd diogelwch a phobol gyffredin oedd yn dathlu cadoediad ar gyfer Eid al-Fitr, a’r cadoediad hwnnw’n dod i ben heddiw.

Dywedodd llefarydd fod 45 o bobol hefyd wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad.

Ddydd Sadwrn, cafodd o leiaf 36 o bobol eu lladd mewn ymosodiad tebyg yn y ddinas.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am y naill ymosodiad na’r llall ond mae lle i gredu mai Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – oedd yn gyfrifol.