Mae’r llong gyntaf sy’n cynorthwyo cwch o ffoaduriaid wedi cyrraedd porthladd Valencia yn Sbaen.

Fe fydd dwy long arall yn cyrraedd y lan yn fuan.

Mae 630 o ffoaduriaid yn cael eu tywys i’r lan ar ôl mynd i drafferthion ger ynys Sisili wrth groesi Môr y Canoldir yr wythnos ddiwethaf. Roedd yr Eidal wedi gwrthod rhoi caniatâd i’r llong ddod i’r lan yno.

Mae’r ffoaduriaid wedi dechrau cael cymorth gan weithwyr dyngarol, swyddogion iechyd a seicolegwyr, ac mae’r awdurdodau yn Sbaen yn dweud y byddan nhw’n ceisio rhoi lloches iddyn nhw.

Mae disgwyl iddyn nhw allu aros yn Sbaen am fis cyn gorfod cydymffurfio â chyfraith y wlad.

Yn eu plith mae 123 o blant heb rieni, 11 o blant gyda’u teuluoedd a saith o fenywod beichiog.

Fe allai nifer ohonyn nhw fynd i Ffrainc.

Ffoaduriaid yn Sbaen

Rhwng dydd Gwener a dydd Sadwrn, cafodd 986 o ffoaduriaid eu tynnu o’r môr gan 69 o gychod Sbaen ger Gibraltar.

Ond cafwyd hyd i bedwar corff hefyd.

Mae o leiaf 792 o ffoaduriaid wedi marw wrth groesi’r môr eleni, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Rhwng mis Ionawr a mis Mai eleni, llwyddodd 35,455 o ffoauriaid i gyrraedd y lan yn Ewrop, a 11,792 ohonyn nhw wedi glanio yn Sbaen.