Mae ceisiwr lloches o Moroco wedi cael ei garcharu am oes, am ymosod ar gyfres o bobol yn y Ffindir â chyllell.

Cyflawnodd Abderrahman Bouanane y weithred yn ninas Turku, ar Awst 18, 2017.

Roedd y ffigwr yn cefnogi’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ei ugeiniau cynnar, ac wedi’i sbarduno gan weithredoedd y Gorllewin yn Syria.

Cafodd ei farnu’n euog o ddwy lofruddiaeth yn gysylltiedig â brawychiaeth, ac wyth cyhuddiad o geisio llofruddio.

Gan fod dedfryd oes tipyn yn fyrrach yn y Ffindir, bydd mwy na thebyg yn treulio rhwng 14 ac 16 blynedd dan glo.