Mae ymgyrchydd hawliau hoywon o wledydd Prydain wedi cael ei ddwyn i’r ddalfa ar ôl protestio ger y Kremlin yn Mosgow heddiw (dydd Iau, Mehefin 14).
Fe gafodd Peter Tatchell ei arestio ger y cerflun o Gadfridog Georgy Zhukov tra oedd yn chwifio poster a oedd yn ymosod yn bersonol ar arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Roedd y poster yn honni bod Vladimir Putin wedi methu â gweithredu yn erbyn y trais mae pobol hoyw yn gorfod ei wynebu yn Chechnya.
Daeth swyddogion yr heddlu at yr ymgyrchydd i ddweud ei fod wedi torri’r gyfraith, cyn ei arwain i un o’u cerbydau er mwyn ei yrru i’r orsaf heddlu leol.
Yn ôl Peter Tatchell mewn datganiad cyn y protest, dyma’r chweched tro iddo ymweld â Rwsia er mwyn protestio dros hawliau LGBT+.
Ychwanegodd hefyd ei fod wedi cael ei arestio dwywaith gan yr awdurdodau Rwsiaidd yn y gorffennol, gan gynnwys derbyn niwed i’w ben ar ôl cael ei daro gan eithafwyr Rwsiaidd yn 2007.