Mae’r awdurdodau yn yr Almaen wedi llwyddo i atal ymosodiad gwenwynig gan eithafwr Islamaidd.

Mae’r erlynwyr ffederal yn dweud iddyn nhw arestio dyn 29 oed, sy’n cael ei gyfeirio ato fel Sief Allah H, am brynu deunyddiau gyda’r bwriad o greu’r gwenwyn ‘risin’, gyda’r bwriad o’i ddefnyddio’r gwenwyn mewn ymosodiad.

Fe ddaethon nhw o hyd i risin yn ei fflat yn ninas Cwlên.

Mae’r erlynwyr yn dweud nad oes ganddyn nhw ddim tystiolaeth ar y funud o gysylltiad Sief Allah H gydag unrhyw grwp eithafol.