Mae arweinydd yr wrthblaid yn Rwsia, Alexei Navalny, wedi cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl treulio 30 diwrnod dan glo am gynnal protest ‘anghyfreithlon’ yn Moscow.

Ddechrau mis Mai, fe gafodd cyfres o ralïau eu cynnal o dan anogaeth Alexi Navalny, a hynny ychydig cyn i Arlywydd y wlad, Vladimir Putin, gychwyn ar ei dymor newydd yn y swydd.

Mi gafodd protestiadau o dan y slogan, “nid fe yw ein tsar”, gael eu cynnal ledled y wlad ar Fai 5.

Mewn llys ym Moscow yn ddiweddarach yn y mis, mi gafodd Alexei Navalny ei ganfod yn euog o drefnu rali anghyfreithlon ac o geisio osgoi’r heddlu.

Derbyniodd 30 diwrnod o garchar am y troseddau, ac mae ei rhyddhau heddiw yn cyd-fynd â chychwyn cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Rwsia.

Mae’r ymgyrchydd, sy’n un o wrthwynebwyr penna’ Vladimir Putin, wedi cael ei garcharu droeon yn y gorffennol am drefnu protestiadau.