Roedd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn westai arbennig – os annisgwyl – mewn cyfarfod rhwng uwch-swyddogion FIFA ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 14), a hynny ddiwrnod cyn i gystadleuaeth Cwpan y Byd agor yn Rwsia.

Doedd neb yn disgwyl i’r arlywydd wneud ymddangosiad, a dim ond criw bach o swyddogion edd yn ymwybodol o flaen llaw.

Mi gamodd i’r llwyfan yng nghanol y bore, gyda’r mwyafrif o’r swyddogion, heblaw am y cadeirydd, Greg Clarke, a’r prif weithredwr, Martin Glenn, yn codi ar eu traed i’w gymeradwyo.

Aeth yn ei flaen wedyn i ysgwyd llaw â rhai o aelodau cyngor FIFA, cyn annerch y gynulleidfa mewn Rwsieg.

“Un tîm mawr”

Yn ystod ei anerchiad, mi gafodd FIFA ei ganmol gan Vladimir Putin am fod yn “un tîm mawr” sydd wedi helpu Rwsia i “gynnal y digwyddiad mwyaf arwyddocaol mewn chwaraeon rhyngwladol”.

Fe roddodd ganmoliaeth i Lywydd presennol FIFA, Giani Infantino, gan ei ddisgrifio fel dyn sydd â “theimladau positif” tuag at Rwsia, a’i fod yn “wir ymladdwr” dros fuddiannau pêl-droed.

Daw’r sylwadau hyn yn ystod yr un cyfarfod â phan ddatganodd Giani Infantino ei fod yn dymuno aros yn Llywydd ar FIFA am dymor ychwanegol, a hynny er mwyn parhau â’i waith i wella sefyllfa ariannol y sefydliad.

Ymatebodd y Llywydd i sylwadau Vladimir Putin trwy ddweud bod FIFA yn gyffredinol yn “diolch o waelod calon” i Rwsia, cyn ei arwain i ffwrdd o’r llwyfan ar gyfer toriad byr nad oedd yn rhan o amserlen y dydd.

Cwpan y Byd

Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cychwyn heddiw (dydd Iau, Mehefin 14), gyda gêm rhwng Rwsia a Saudi Arabia.

Mi fydd y gystadleuaeth yn parhau tan Orffennaf 15, ac mae disgwyl i 32 o wledydd gystadlu am y cwpan mewn 64 o gemau.

Mae Rwsia wedi dewis 11 dinas i gynnal y gemau, gan gynnwys Moscow, St Petersburg a Kaliningrad.