Mae’r Eidal wedi galw ar Ffrainc i dderbyn rhagor o fewnfudwyr, ac wedi gofyn am ymddiheuriad gan eu cymydog Ewropeaidd.

Daw hyn wedi i Ffrainc feirniadu’r Eidal am beidio derbyn llong llawn mewnfudwyr.

Mae yna 629 o fewnfudwyr ar fwrdd yr Aquarius, a bellach mae Sbaen wedi cynnig rhoi lloches iddyn nhw. Mae’r llong yn nyfroedd Malta ar hyn o bryd.

Yn ôl y Gweinidog Cartref, Matteo Salvini, mi ddylai Ffrainc “weithredu yn hytrach na siarad” â derbyn 9,816 o fewnfudwyr.

Mi ymrwymodd Ffrainc i wneud hyn yn 2015 fel rhan o gynllun Ewropeaidd i leddfu pwysau mewnfudo ar y cyfandir.

Dim ond 640 o bobol maen nhw wedi derbyn hyd yma, meddai Matteo Salvini.