Mae Groeg wedi dod i gytundeb â Macedonia tros enw eu cymydog, yn ôl Prif Weinidog y wlad.
Yn ôl Alexis Tsiparas, mi fydd Macedonia yn newid eu henw, ac mi fydd yr enw hwnnw yn cael ei ddefnyddio tu fewn a thu allan i’r wlad.
Ond, nid yw’r enw ei hun wedi’i gyhoeddi eto.
Mae enw Macedonia wedi bod yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy wlad ers degawdau, gan fod rhanbarth gogleddol Groeg yn rhannu’r enw.
I Groeg mae’r enw’n awgrymu bod eu cymydog yn hawlio’u rhanbarth.