Roedd naw o bobol ifanc o wledydd Prydain ar fws a fu mewn damwain yn yr Almaen ddoe (dydd Llun, Mehefin 11).

Fe brofodd pob un fân anafiadau pan gollodd gwr 90 oed reolaeth o’i gar a mynd ar ei ben i mewn i fws deulawr yn ardal y Goedwig Ddu.

Yn ol yr heddlu lleol, roedd 73 o fyfyrwyr rhwng 13 a 15 oed ar y bws ar y pryd, ger tref Voehrenbach yn ne-orllewin yr Almaen.

Mae gyrrwr y car, ynghyd ag un o yrwyr y bws, wedi eu hanafu’n ddifrifol.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth achosodd i’r pensiynwr yrru i ganol traffig oedd yn dod i’w gwfwr ar y ffordd.