Mae offeriad Pabyddol wedi cael ei saethu’n farw gan ddau ddyn arfog yng ngogledd y Ffilipinas, wrth iddo baratoi i weinyddu’r offeren.

Fe gafodd y Parchedig Richmond Nilo ei saethu yn y capel yn nhref Zaragoza yn nhalaith Nueva Ecija.

Fe lwyddodd y dynion i ddianc o’r fan ar gefn motorbeic, wedi iddyn nhw saethu trwy ffenest y capel.

Wedi’r lladd, roedd pwll o waed ar y llawr o dan gerflun o’r forwyn Fair.

Mae Rodrigo Duterte, arlywydd y Ffilipinas, wedi condemnio’r ymosodiad.