Mae hyd at 175,000 o bobol wedi ffurfio ciw yng Ngwlad y Basg i alw am annibyniaeth oddi wrth Sbaen.

Roedd y dorf yn dal dwylo er mwyn ffurfio cadwyn ddynol, gan gysylltu dinasoedd San Sebastian, Bilbao a Vitoria.

“Yn ein dwylo ni y mae hi”, meddai slogan yn yr iaith Fasgeg ar sgarffiau’r dorf.

Roedd cefnogwyr o blaid annibyniaeth i Gatalwnia ymhlith y rhai oedd hefyd yn galw am annibyniaeth i Wlad y Basg heddiw.

Daw’r alwad am annibyniaeth yng Ngwlad y Basg fis ar ôl i’r mudiad Eta ddod i ben.