Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un wedi cyrraedd Singapôr ar gyfer ei gyfarfod arwyddocaol gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Roedd limousine yn aros amdano fe yn y maes awyr i’w gludo i gyfarfod lle bydd arfau niwclear ar frig yr agenda.
Mae’r cyfarfod wedi denu cryn sylw ar draws y byd yn sgil pryderon y gallai diffyg cytundeb rhwng y ddwy wlad gynyddu’r posibilrwydd o ryfel niwclear yn dilyn profion dros y flwyddyn ddiwethaf.
Er bod cryn ddisgwyl am ymateb Kim Jong Un i’r pryderon, mae Donald Trump wedi disgrifio’r trafodaethau fel cyfle i’r ddau arweinydd ddod i adnabod ei gilydd yn well.
Dad-niwcleareiddio?
Mae cryn ddyfalu y gallai’r cyfarfod arwain at ddad-niwcleareiddio Gogledd Corea yn llwyr.
Ond byddai hynny’n ddibynnol i raddau helaeth ar barodrwydd yr Unol Daleithiau i roi sicrwydd y byddai’r wlad yn ddiogel pe bai’n gwneud hynny.
Mae’n annhebygol y bydd yr Unol Daleithiau’n gallu sicrhau hynny, gan fod prinder dulliau eraill o warchod y wlad, ac mae’n annhebygol hefyd y bydd Gogledd Corea yn rhoi’r hawl i archwilwyr allanol archwilio’u deunyddiau niwclear, sydd fel arfer yn cael eu cadw dan ddaear.
Rhyfel Corea
Yn swyddogol, mae Rhyfel Corea yn parhau er i’r ymladd ddod i ben ar Orffennaf 27, 1953.
Mae Gogledd Corea yn galw ers blynyddoedd am gytundeb i symud milwyr Americanaidd allan o’r wlad, a allai arwain yn y pen draw at uno Gogledd a De Corea.
Ond byddai cytundeb o’r fath yn gofyn am sêl bendith Tsieina a De Corea ac yn ôl cefnogwyr Donald Trump, byddai ei lwyddiant yn deilwng o Wobr Heddwch Nobel.