Mae cyn-arweinydd Pacistan, Pervez Musharraf wedi datgan ei fwriad i geisio dychwelyd i senedd Pacistan pan fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar Orffennaf 25.

Fe gafodd e ganiatâd gan y Goruchaf Lys i ddychwelyd o Dubai, lle bu’n alltud er mwyn osgoi cael ei arestio a’i erlyn.

Mae disgwyl iddo fod yn ymgeisydd ar gyfer sedd tref Chitral yng ngogledd y wlad.

Fe gipiodd e rym yn 1999 drwy ddadorseddu llywodraeth Nawaz Sharif, sydd bellach wedi’i atal rhag sefyll o ganlyniad i gyhuddiadau o lygredd yn ei erbyn. Cafodd ei orfodi i ymddiswyddo yn 2008 ar ôl i blaid Benazir Bhutto ddod i rym.

Brwydr

Fe fydd plaid y cyn-gricedwr Imran Khan yn herio plaid Nawaz Sharif am nifer o seddau.

Ac fe ddaeth cadarnhad y bydd Imran Khan yn ymgeisydd ar gyfer sedd mewn ymgais i ddod yn Brif Weinidog.

Daeth cyfnod y Cynulliad Cenedlaethol i ben ar Fai 31.

Mae disgwyl i blaid y cyn-Arlywydd Asif Ali Zardari gyflwyno ymgeiswyr ar draws y wlad er mwyn mynd am fwyafrif yn y Senedd. Fe fydd yntau’n sefyll yn nhalaith Sindh yn ne’r wlad.