Mae Llywodraeth Awstria yn bwriadu cau saith mosg a gwahardd arweinwyr Mwslemaidd, a hynny mewn ymgais i gael gwared ar ganolfannau crefyddol sy’n derbyn nawdd o dramor.

Yn ôl Canghellor Awstria, Sebastian Jurz, maen nhw’n bwriadu cau mosg yn Vienna sy’n gysylltiedig ag eithafwyr o Dwrci, ynghyd â grŵp o’r enw Cymuned Crefyddol Arabaidd, sy’n gyfrifol am chwech o fosgs y wlad.

Gweithredodd y Llywodraeth yn unol â deddf a gafodd ei chyflwyno yn 2015 sy’n rhwystro cymunedau crefyddol yn Awstria rhag derbyn nawdd ariannol o dramor.

Hefyd mae’r gweinidog dros faterion cartref yn Awstria, Herbert Kickl, wedi cyhoeddi bod trwyddedau preswyl tua 40 o arweinwyr Islamaidd yn cael eu hadolygu.

Cafodd trwyddedau dau ohonyn nhw eu tynnu’n ôl, ac mae pump arall wedi cael eu gwrthod rhag derbyn trwyddedau am y tro cynta’.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Awstria yn cael ei redeg gan glymblaid sy’n cynnwys y Blaid Ryddid, sy’n gwrthwynebu mewnfudwyr.