Mae prif archwiliwr meddygol wedi dyfarnu mai marwolaeth trwy hunanladdiad oedd un Kate Spade, y dylunydd ffasiwn.

Daw’r penderfyniad ddau ddiwrnod ar ôl i gorff y ddynes 55 ed gael ei ganfod yn ei fflat Park Avenue, Efrog Newydd.

Dywed yr heddlu ei bod hi wedi gadael nodyn a oedd yn tynnu sylw at “hunanladdiad trasig”, ac mae ei gŵr a’i phartner busnes, Andy Spade, yn dweud iddi dioddef o iselder a gorbryder ers blynyddoedd lawer.

Fe ddaeth Kate Spade, 55 oed, i enwogrwydd yn ystod y 1990au, wrth ddylunio cyfres o handbags a ddaeth yn boblogaidd iawn.

Mae gan ei chwmni, Kate Spade New York, fwy na 140 o siopau yn yr Unol Daleithiau, a mwy na 175 ledled y byd.