Mae adroddiad newydd yn rhybuddio bod twristiaid yn achosi cynnydd o 40% mewn sbwriel morol sy’n mynd i’r Môr Canoldir bob haf, ac mae’r mwyafrif helaeth ohono yn blastig.

Mae tua 95% o’r gwastraff yn y môr agored, ar wely’r môr ac ar draethau ar draws y rhanbarth yn blastig, gyda’r mwyafrif yn dod o Dwrci a Sbaen, ac yna’r Eidal, yr Aifft a Ffrainc, dywedodd yr astudiaeth gan yr elusen bywyd gwyllt WWF.

Môr y Canoldir yw un o’r moroedd sydd â’r lefelau uchaf o lygredd plastig yn y byd, gyda channoedd o filoedd o dunelli o eitemau plastig a microplastig bach yn cyrraedd ynddo bob blwyddyn a niweidio bywyd gwyllt.

Mae mwy na 200 miliwn o dwristiaid yn ymweld â’r Môr Canoldir bob blwyddyn, gan gynnwys miliynau o bobol o wledydd Prydain, gan achosi’r cynnydd o 40% mewn sbwriel morol yn ystod yr haf.

Mae’r elusen gadwraeth yn galw ar bobol sy’n mynd ar wyliau i edrych ar dorri i lawr ar blastig untro, gan gynnwys pob gwelltyn yfed; yfed dŵr tap lle mae’n ddiogel gwneud hynny; ac osgoi eitemau fel teganau pwll nofio.

Mae awgrymiadau eraill ar gyfer twristiaid i dorri i lawr ar blastig yn cynnwys dod â bag am fywyd ar wyliau a sicrhau eu bod yn mynd ag unrhyw sbwriel gyda nhw oddi ar y traeth.