Mae cwmni dodrefn modern Ikea wedi addo tynnu pob cynnyrch plastig untro o’i siopau ac o’r mwyafrif o fwytai ei gwsmeriaid a gweithwyr erbyn 2020.

Mae’r cwmni o Sweden hefyd yn dweud y bydd yn dylunio cynnyrch fydd yn gallu cael ei atgyweirio, ei ail-werthu neu ei ail-gylchu fel rhan o restr o bethau i’w cyflawni erbyn 2030.

Y gobaith yw annog cwsmeriaid i fyw’n fwy cynaliadwy.

“Mae byw bywyd mewn ‘cylch’ yn ffitio i’r ffordd y mae ffordd o fyw pobol yn newid,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Mae angen ymestyn oes ein cynnyrch a’n deunyddiau, a defnyddio adnoddau mewn modd graffach.”