Mae brenin yr Iorddonen, Abdullah II, wedi penodi Omar Razzaz, yn Brif Weinidog y wlad.

Mae’r cyn-Weiniodg Addysg yn y Llywodraeth yn cymryd lle Hani Mulki, a ymddiswyddodd yn sgil dyddiau o brotestiadau yn erbyn ei ymgais i gyflwyno mesurau o lymder.

Mae economi yr Iorddonen wedi bod yn dioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny’n bennaf oherwydd y rhyfeloedd yn Syria ac Irac gerllaw.

Diwygiwr

Er bod Omar Razzaz yn cael ei ystyried yn ddiwygiwr, y Brenin sydd â’r gair ola’ ar bob penderfyniad polisi yn y wlad.

Dros y blynyddoedd mae wedi diswyddo a phenodi llywodraethau fel modd o dawelu protestwyr, ond nid oes sicrwydd y bydd y penodiad diweddaraf hwn yn atal y protestiadau diweddara’.

Yn ei anerchiad i’r genedl wrth benodi’r Prif Weinidog newydd, mae’r brenin wedi galw ar y lywodraeth i gynnal adolygiad llawn o system dreth y wlad, ynghyd â chydweithio â’r Senedd, undebau’r gweithwyr a grwpiau eraill i gyflwyno mesur treth newydd.

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn cydymdeimlo â phobol gyffredin yr Iorddonen yn y modd y mae’n rhaid iddyn nhw dalu trethi uchel am wasanaethau gwael.