Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud bod ganddo “berffaith hawl” i roi pardwn iddo’i hunan.

Mae’r sylwadau hyn mewn cysylltiad â’r ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i honiadau bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad Arlywyddol yn 2016.

Ond er bod Donald Trump yn dal i wadu unrhyw gysylltiad rhyngddo â’r Rwsiaid, mae wedi datgan bod ganddo hawl fel Arlywydd i roi pardwn i’w hunan pe bai’r ymchwiliad yn mynd yn ei erbyn.

Daw hyn ar ôl i aelod o’i dîm cyfreithiol, Rudy Giuliani, ddweud wrth newyddiadurwyr yn yr Unol Daleithiau y byddai gweithred o’r fath yn “gwbwl annoeth”, gan arwain yn syth at ei ddiswyddo o fod yn arlywydd.

Ymateb Donald Trump

Ar y wefan gymdeithasol Twitter, fe ymatebodd Donald Trump drwy wrthod y sylwadau hyn.

“Fel y mae nifer o arbenigwyr y byd cyfreithiol wedi nodi, mae gen i berffaith hawl i roi pardwn i fy hunan, ond pam ddylwn i wneud hynny pan nad ydw i wedi gwneud dim o’i le?” meddai.

Aeth yn ei flaen wedyn i ddisgrifio’r ymchwiliad, sy’n cael ei gynnal gan y cwnsler arbennig, Robert Mueller, fel “helfa wrachod ddi-ben-draw”.