Mae Prif Weinidog yr Iorddonen, Hani Mulki, wedi gadael ei swydd, yn ôl adroddiadau.
Daw hyn ar ôl dyddiau o brotestiadau yn y wlad lle mae miloedd o brotestwyr wedi ymgasglu i fynegi eu hanfodlonrwydd gyda bwriad y Llywodraeth i gyflwyno mesurau pellach o lymder.
Mae economi yr Iorddonen wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diwetha’, a hynny’n bennaf oherwydd y rhyfeloedd yn Syria ac Irac gerllaw.
Ymhlith y mesurau o lymder yr oedd Llywodraeth Hani Mulki yn gobeithio eu cyflwyno oedd codi trethi, ond mae’n debyg ei fod wedi ufuddhau i alwadau’r protestwyr trwy ymddiswyddo.
Er nad oes cadarnhad swyddogol wedi’i rhyddhau eto, mae dwy wefan sydd â chysylltiadau â’r Llywodraeth wedi adrodd ei fod wedi ymadael.
Grym yn nwylo’r Brenin
Brenin yr Iorddonen, sef Abdullah II, sydd â’r gair ola’ ar bob penderfyniad polisi yn y wlad, a dros y blynyddoedd mae wedi diswyddo a phenodi llywodraethau fel modd o dawelu protestwyr.
Ond dyw hi ddim yn edrych yn debyg eto y bydd ymadawiad Hani Mulki fel Prif Weinidog yn atal y protestiadau diweddara’.