Mae hunan-fomiwr wedi ymosod ar gyfarfod o glerigwyr ym mhrifddinas Afghanistan, gan ladd o leiaf saith person ac anafu naw.

Ychydig cyn yr ymosodiad, roedd y corff o glerigwyr, sy’n cael ei adnabod fel Cyngor Ulema Afghanistan, wedi cyflwyno gorchymyn yn gwrthwynebu’r weithred o hunan-fomio.

Roedden nhw hefyd wedi galw am heddwch yn Afghanistan, gan ddweud y dylai trafodaethau gael eu cynnal i ddod â’r rhyfel yn y wlad i ben.

Yn ôl yr heddlu yn Kabul, roedd yr hunan-fomiwr wedi targedu mynedfa’r adeilad lle’r oedd prif glerigwyr y wlad wedi dod ynghyd i gyfarfod o dan babell draddodiadol y Loya Jirga.

Does neb wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad, a does dim cadarnhad wedi dod eto ynglŷn â faint o glerigwyr a oedd ymhlith y meirw.

Roedd tua 2,000 o bobol wedi ymgasglu ar gyfer y cyfarfod.