Mae naw o ffoaduriaid, yn cynnwys chwech o blant, wedi boddi mewn damwain cwch oddi ar arfordir Twrci.
Fe drodd y cwch drosodd yn gynnar fore Sul (Mehefin 3) ger tref Demre yn nhalaith ddeheuol Antalya.
Fe ddaeth gwylwyr y glannau o hyd i gyrff naw o bobol, ac fe gafodd pedwar o bobol eraill eu hachub. Fe gafodd pumed ffoadur ei godi a’i gludo i ddiogelwch gan gwch pysgota.
Mae’r cyfryngau yn Nhwrci yn adrodd fod cymaint â phymtheg o bobol ar y cwch, yn ol y rheiny sydd wedi goroesi. Mae’r awdurdodau’n dal i chwilio am un person sy’n dal ar goll.
Dyw hi ddim yn glir eto o ba wlad yr oedd y bobol yn ffoi.