Mae asiantaeth newyddion Gogledd Corea yn adrodd heddiw fod arlywydd Syria, Bashar Assad, eisiau ymweld â’r wlad er mwyn cyfarfod Kim Jong Un.

Yn yr adroddiad, mae Bashar Assad yn cael ei ddyfynnu’n dweud ei fod yn bwriadu teithio i Pyongyang, er mwyn cynnal trafodaethau gyda’r arweinydd.

Does yna ddim cadarnhad eto o du Syria fod trefniadau ar gyfer y daith ar y gweill.

Mae’r adroddiad hefyd yn dyfynnu Bashar Assad yn dweud ei fod “yn siwr y byddai Mr Kim yn hawlio’r fuddugoliaeth eitha’ o ail-uno Corea”.

Fe ddaw’r adroddiad wrth i’r byd baratoi ar gyfer cyfarfod rhwng Kim Jong Un a Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn Singapor ar Fehefin 12.