Mae Prif Weinidog newydd Sbaen, Pedro Sanchez wedi tyngu llw ar ôl llwyddo i ddadorseddu Mariano Rajoy.

Cafodd seremoni fawreddog ei chynnal ym Mhalas Zarzuela ddiwrnod ar ôl i Pedro Sanchez arwain pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn y cyn-Brif Weinidog tros honiadau o lygredd.

Pleidleisiodd Senedd Sbaen o 180 i 169 o blaid symud llywodraeth Mariano Rajoy o’u swyddi a dod â llywodraeth newydd i rym.

Mae plaid sosialaidd y Prif Weinidog newydd yn cefnogi’r Undeb Ewropeaidd a’r Ewro fel arian.

Pedro Sanchez yw seithfed Prif Weinidog y wlad ers i gyfnod yr unben Franco ddod i ben yn 1975.