Mae sŵ yng Ngwlad Pŵyl yn dathlu genedigaeth arth gwscws brin – y tro cyntaf i’r creadur gael ei fridio o dan amgylchiadau caeth, yn ôl arbenigwyr.

Dywedodd ceidwad Sŵ Wroclaw, Joanna Kij fod nifer o geidwaid wedi sylwi ar symudiad ac arth fach yng nghod y fam ym mis Mawrth, lle mae rhai bach fel arfer yn aros.

Mae’r fam yn gofalu’n dda am yr un bach, meddai’r sŵ.

Mae’r creaduriaid yn byw ar ynys Sulawesi yn Indonesia, ond mae eu niferoedd yn gostwng yn sylweddol ac yn gyflym.

Er mwyn ceisio eu hachub, mae 13 ohonyn nhw’n cael eu cadw mewn pedwar sŵ ar draws y byd, ond dyma’r tro cyntaf i un ohonyn nhw roi genedigaeth.