Mae archaeolegwyr wedi darganfod penglog dyn sy’n dyddio o’r flwyddyn 79OC, a’r gred yw ei fod yn ceisio ffoi rhag ffrwydrad llosgfynydd Feswfiws pan gafodd ei ladd.

Mae swyddogion yn Pompeii wedi cyhoeddi llun sy’n dangos y benglog o dan garreg fawr. Y gred yw ei fod e wedi cael ei daro gan ffrâm drws o ganlyniad i’r ffrwydrad.

Mae lle i gredu bod y dyn dros ei 30 oed, ond dydi’r arbenigwyr ddim wedi dod o hyd i’w ben.

Yn ôl arbenigwyr, roedd gan y dyn haint yn un o esgyrn ei goes ac roedd hynny wedi ei atal rhag ffoi yn dilyn y ffrwydrad.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y safle, Massimo Osanna fod y darganfyddiad yn un “eithriadol”, a’i fod yn cynnig darlun cliriach “o hanes a gwareiddiad yr oes”.