Mae’r awdurdodau yn Hawaii yn anfon pobol allan i guro drysau, er mwyn gwneud yn siwr fod trigolion ger llosgfynydd Kilauea yn gadael eu tai.
Mae gorchymyn wedi’i gyhoeddi i bawb sy’n byw i’r dwyrain o Pomaikai, rhag ofn iddyn nhw gael eu hynydu gan yr afonydd o lafa sy’n llifo o’r mynydd.
Fe gafodd ardal Hilina ei hysgwyd gan ddaeargryn 4.4 dros y Sul, ac er nad oedd yn ddigon i ysgogi tswnami, mae wedi ychwanegu at ba mor ansefydlog ydi’r lle.
I fyny at ddydd Gwener diwethaf (Mai 25) roedd 82 o adeiladau – yn cynnwys 37 o dai – wedi’u dinistrio gan y lafa.