Mae’r cyn-filwr trawsrywiol – a ddaeth i amlygrwydd byd am ryddhau rhai o gyfrinachau llywodraeth America – yn ddiogel, wedi i neges a llun ar ei chyfrif Twitter awgrymu ei bod yn sefyll ar sil ffenest mewn adeilad uchel.

Mae ffrind i Chelsea Manning wedi cadarnhau ei bod yn iawn, wedi i’r geisiau “Mae’n ddrwg gen i” gael eu postio ar y wefan gymdeithasol yn dilyn neges arall yn mynegi, “Dydw i ddim wedi fy ngwneud ar gyfer y byd hwn”.

Doedd hi ddim yn glir o’r ddau drydariad yn lle’n union y cafodd y llun ei dynnu.

Fe gafodd y negeseuon eu dileu ymhen deng munud o’u cyhoeddi, cyn y postiwyd neges arall yn gofyn i bobol “adael llonydd” iddi am dipyn.

Mae ffrindiau i Chelsea Manning yn dweud fod y cyfnod ar ôl gadael y carchar wedi bod yn un “eithriadol o anodd” iddi, gan ddweud fod blynyddoedd dan glo, cyfnodau hir mewn cell ar ei phen ei hun, yn ogystal â chael ei harteithio, wedi dweud arni.