Mae dwy ddynes wedi’u hanafu’n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan fellt yn ninas Bochum yn yr Almaen.

Mae gwasanaeth tân ac achub y ddinas wedi cadarnhau fod y menywod, yn eu 20au cynnar, yn cerdded llwybr pan gawson nhw eu taro yn hwyr nos Sul. Fe fu’n rhaid i un ohonyn nhw gael triniaeth gan barafeddygon.

Fe fu stormydd mawr yng ngorllewin a chanolbarth yr Almaen ddydd Sul, ac fe gafodd ffyrdd a selerydd eu boddi dan ddwr.

Fe gafodd dwsinau o ehediadau eu canslo ym maes awyr Frankfurt o ganlyniad i’r stormydd.