Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu newid deddfwriaeth erthylu yn Iwerddon wedi ildio ar ôl i bolau cynnar awgrymu buddugoliaeth swmpus i’r rhai sydd o blaid llacio’r gyfraith.

Mae lle i gredu bod 70% o bleidleiswyr yn y refferendwm o blaid newid y gyfraith.

Dechreuodd y broses o gyfri’r pleidleisiau am 9 o’r gloch fore heddiw.

Yn dilyn y refferendwm, mae disgwyl i Wythfed Gwelliant y cyfansoddiad gael ei ddiwygio. Ar hyn o bryd, mae’n gwrthod yr hawl i ddynes gael erthyliad oni bai bod ei bywyd mewn perygl.

Gwrthwynebwyr

Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu erthylu wedi disgrifio’r golled fel “trasiedi hanesyddol”, gan ychwanegu nad yw rhywbeth “anghywir yn dod yn gywir oherwydd bod y mwyafrif yn ei gefnogi”.

Mae disgwyl y canlyniad swyddogol yn ddiweddarach ddydd Sadwrn.

Dywedodd ymgyrchwyr o blaid newid y gyfraith fod y bleidlais “er lles urddas”, ac y bydd yn arwain at “newid sylweddol yn hanes cymdeithasol Iwerddon”.

Wrth ymateb nos Wener, dywedodd Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar fod y wlad ar drothwy “hanes”.

Roedd miloedd o Wyddelod alltud wedi dychwelyd i’r wlad ar gyfer y refferendwm.

Pe bai’r canlyniad yn cael ei gadarnhau, fe fydd gwleidyddion yn mynd ati i ddiwygio’r gyfraith erbyn diwedd y flwyddyn i’w gwneud hi’n haws i fenywod gael erthyliad o fewn 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd.