Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dweud bod y trafodaethau gydag arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un i ailgyflwyno uwchgynhadledd yn rhai “adeiladol iawn”.

Pe bai’r trafodaethau’n llwyddiannus, fe allai’r uwchgynhadledd gael ei chynnal yn Singapore ar Fehefin 12. Ond pe na baen nhw, fe allen nhw gael eu gohirio.

Roedd syndod ar draws y byd ddydd Iau pan wnaeth Donald Trump dynnu’n ôl o’r uwchgynhadledd ar ôl i berthynas yr Unol Daleithiau a Gogledd Corea ddirywio.

Ddydd Gwener, daeth datganiad gan Ogledd Corea yn “rhoi amser a chyfle” i’r Unol Daleithiau ailystyried cynnal trafodaethau o’r newydd.

Mae De Corea hefyd wedi croesawu’r newyddion y bydd y trafodaethau’n parhau.

Cefndir

Mewn llythyr at Kim Jong Un ddydd Iau, dywedodd Donald Trump ei fod yn gwrthwynebu datganiad un o aelodau llywodraeth y wlad fod ei Ddirprwy Arlywydd, Mike Pence yn “ddymi gwleidyddol”. Roedd Gogledd Corea wedi rhybuddio am y posibilrwydd o “gyfarfod niwclear-i-niwclear”.

Rhybuddiodd Donald Trump fod Gogledd Corea yn parhau i wynebu’r perygl o sancsiynau economaidd a diplomyddol, ac fe ddywedodd un o’i swyddogion fod Gogledd Corea wedi cefnu ar addewidion blaenorol, gan gynnwys rhoi’r hawl i swyddogion archwilio’r broses o ddinistrio ei safle niwclear.