Bydd y Gwyddelod yn heidio i’r gorsafoedd pleidleisio heddiw i daro pleidlais yn refferendwm diweddara’r wlad.

Trwy’r bleidlais hon, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i wrthdroi’r ‘Wythfed Gwelliant’ – rhan o’r cyfansoddiad sy’n cyfyngu ar allu menywod i gael erthyliadau.

Ar un ochr mae lobi’r Eglwys Gatholig, sy’n dadlau bod bywyd y ffoetws yn gysegredig, ac ar yr ochr arall mae’r ymgyrch ‘Ie’ sy’n galw ar y wlad i foderneiddio.

Petasai’r ymgyrch ‘Ie’ yn llwyddiannus, byddai modd i fenywod gael erthyliad o fewn y 12 wythnos gyntaf o feichiogrwydd – ac o fewn 12 a 24 wythnos mewn achosion eithriadol.

Er bod polau piniwn yn dangos bod y ras yn un agos, mae disgwyl mai’r ymgyrch ‘Ie’ fydd yn fuddugol.