Mae Gogledd Corea wedi dweud eu bod o hyd yn awyddus i gynnal trafodaethau â’r Unol Daleithiau.

Daw hyn wedi i’r Arlywydd Donald Trump, ganslo trafodaethau heddwch â’r arweinydd, Kim Jong Un, gan feio Pyongyang am fod yn “flin ac yn ymosodol”.

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener (Mai 25), mae Gogledd Corea wedi nodi eu bod yn “awyddus i roi’r cyfle i’r Unol Daleithiau [ailystyried]”.

Yn ogystal mae’r wlad yn agored i drafod “ar unrhyw adeg, ac mewn unrhyw fodd”.

Y berthynas

Cyn i Donald Trump gefnu ar y trafodaethau, mi wnaeth Gogledd Corea gyflawni sawl gweithred er mwyn cyfleu eu hewyllys da – gan gynnwys rhyddhau carcharorion, a chau safle niwclear.

Bydd cam diweddaraf yr Arlywydd yn sicr o gael ei ystyried yn amharchus, ac yn dwysau tensiynau rhwng y gwledydd ymhellach.