Mae grŵp o newyddiadurwyr o wledydd tramor wedi teithio ar drên i weld safle profion niwclear yng Ngogledd Corea yn cael ei gau.

Mae disgwyl i seremoni swyddogol gael ei chynnal wrth i’r safle yng ngogledd-ddwyrain y wlad gau o fewn y dyddiau nesaf.

Fe gyhoeddodd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, y byd y safle’n cau cyn y bydd uwchgynhadledd yn cael ei chynnal rhyngddo ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Roedd y Gogledd wedi gwrthod rhoi caniatâd i newyddiadurwyr o Dde Corea i weld cau’r safle profion niwclear, a hynny yn sgil y ffrae ddiweddar rhwng y ddwy wlad ynghylch ymarferion milwrol.

Ond ers hynny, mae’r rhestr o newyddiadurwr o Dde Corea wedi cael ei derbyn, ac fe fyddan nhw’n ymuno â newyddiadurwyr eraill o’r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Tseinia a Rwsia.

Mae’n debyg bod y daith ar y trên o ddinas Wonson yn y Gogledd yn costio $75 yr un i’r newyddiadurwyr, gyda phrydau bwyd yn costio $20 yn ychwanegol.