Mae honiadau gan aelod o Lywodraeth Denmarc bod gŵyl Islamaidd yn beryg ac yn fygythiad i rai gweithwyr, wedi achosi ffrae fawr yn y wlad.

Mae’r feirniadaeth wedi’u hanelu at y Gweinidog Intergreiddio, Inger Stoejberg, a nododd mewn blog ar y we ddydd Lun (Mai 21) na ddylai pobol fynd i’r gwaith yn ystod cyfnod ymprydio Ramadan, a hynny er mwyn “osgoi canlyniadau negyddol i weddill y gymdeithas yn Nenmarc”.

Fe gwestiynodd hefyd sut yr oedd yr ŵyl grefyddol yn effeithio ar yr economi, gan gyfeirio fel un enghraifft at sut yr oedd safon gwaith gyrwyr bysiau yn dioddef oherwydd diffyg bwyd a diod.

Fe ddechreuodd filiynau o Fwslemiaid ledled y byd barchu cyfnod Ramadan yr wythnos hon, sy’n golygu mis cyfan o weddïo dwys, a chyfnodau o ympryd yn ystod y dydd.

“Dim yn bolisi’r Llywodraeth”

Ers i’r blog gael ei gyhoeddi, mae nifer wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau’r gweinidog, gyda Karen Ellemann, prif chwip y Blaid Ryddfrydol, yn dweud nad yw sylwadau Inger Stoejberg yn adlewyrchiad o bolisi’r Llywodraeth.

Ychwanegodd fod gan y gwleidydd “yr hawl i ddechrau y ddadl hon”, ond nad oedd ei sylwadau yn ymgais ffurfiol i newid y gyfraith.

Mewn neges ar y wefan gymdeithasol Facebook wedyn, dywedodd aelod arall o’r Blaid Ryddfrydol, Jacob Jensen, y dylai “gwleidyddion ganolbwyntio ar ddarganfod datrysiad i’r problemau go iawn yn gyntaf”.

Pwy yw Inger Stoejberg?

Mae Inger Stoejberg, sydd wedi bod yn aelod o Lywodraeth Denmarc ers mis Mehefin 2015, wedi arwain yn y gad mewn tynhau rheolau’n ymwneud â mewnfudo a lloches yn y blynyddoedd diwetha’.

Yn 2016, fe gyflwynwyd deddf sy’n golygu bod unrhyw ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yn y wlad yn gorfod trosglwyddo unrhyw emwaith neu aur sydd ganddyn nhw i ddwylo’r awdurdodau, a hynny er mwyn talu am eu harhosiad.