Mae gweinidog o Balesteina wedi galw am ymchwiliad i weithredoedd Israel yn Gaza.

Mae Raid Malki wedi cyflwyno ei gais i’r Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC), ac wedi gofyn arnyn nhw i ystyried y mater “ar frys”.

Yn benodol, mae am weld yr ICC yn craffu ar bolisïau Israel yn y Lan Orllewinol, yn Llain Gaza ac yn nwyrain Jerwsalem.

“Yr arfer yn Israel, dydyn nhw ddim yn cosbi pobol am droseddu yn erbyn Palesteiniaid,” meddai Raid Malki. “Trwy’r cais yma, bydd Palesteina yn rhoi prawf ar allu cyfraith ryngwladol i ddal gwledydd yn atebol.”

Mae Israel wedi ymateb i’r cais trwy ei alw’n “absẃrd” , a chyhuddo Palesteina o ddefnyddio’r ICC mewn modd gwleidyddol.