Mae’r gymuned hoyw, lesbaidd, deurywiol a thraws wedi croesawu sylwadau gan y Pab Ffransis, wrth iddo ddweud wrth ddyn hoyw mai “fel hyn y cefaist dy greu gan Dduw”.

Yn ôl Juan Carlos Cruz, y dyn sydd wedi chwythu’r bib ar achosion o gam-drin rhywiol o fewn yr Eglwys Babyddol yn Chile, fe aeth at y Pab i’r Fatican i drafod y ffaith ei fod yn hoyw.

Roedd wedi’i wahodd yno, ynghyd â diooddefwyr eraill, er mwyn trafod eu profiadau.

“Fe ddywedodd, mae’r Pab yn dy garu di fel hyn,” meddai Juan Carlos Cruz. “Fel hyn y cefais dy greu gan Dduw, ac mae o’n dy garu di.”

Mae’r Fatican wedi gwrthod cadarnhau na gwadu’r sylwadau, gan nad yw yn gwneud sylw ar sgyrsiau personol y Pab.

Fe gafodd y sylwadau eu cyhoeddi gyntaf ym mhapur newydd El Pais yn Sbaen.