Ar ôl treulio’r penwythnos yn yr ysbyty â thwymyn, mae Arlywydd Palesteina bellach mewn “cyflwr da iawn”.

Mae uwch swyddogion hefyd yn ffyddiog y bydd Mahmoud Abbas yn cael ei anfon gartref o fewn y dyddiau nesa’.

Daeth y ffigwr 83 blwydd oed i rym yn 2004, ac ers hynny mae wedi cael ei daro’n wael â llu o broblemau iechyd – gan gynnwys cancr a phroblemau â’i galon.

Ag yntau’n gwrthod penodi olynydd, mae yna bryderon cynyddol ym Mhalesteina am yr hyn fydd yn digwydd wedi’i farwolaeth.

Mae’n debyg bod darpar olynwyr eisoes wedi dechrau cystadlu am y rôl, a phryder rhai yw y gallai hyn droi’n waedlyd.