Mae’r Eidal gam yn nes at benodi ei llywodraeth ‘boblyddol’ gyntaf, wrth i Arlywydd y wlad, Sergio Mattarella, gynnal cyfarfod rhwng arweinwyr y prif bleidiau asgell-dde.

Daw’r cyfarfod hwn ar gyfer ffurfio llywodraeth glymbleidiol 11 wythnos ar ôl i etholiad cyffredinol gael ei gynnal yn y wlad, lle na wnaeth yr un blaid lwyddo i sicrhau mwyafrif.

Ond mae’r posibilrwydd y byddai’r pleidiau asgell-dde, 5-Star a League, yn ffurfio llywodraeth â’i gilydd wedi achosi cryn bryder yn y farchnad stoc a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae cost benthyciad Llywodraeth yr Eidal ar gyfer ariannu ei dyled gyhoeddus ar ei huchaf ers naw mis, ac mae’r farchnad stoc yn Milan wedi syrthio 2% y bore yma.

Mae Gweinidog Economaidd Ffrainc, Bruno Le Maire, hefyd wedi rhybuddio y gallai penodi llywodraeth ‘boblyddol’ yn yr Eidal fygwth sefydlogrwydd economaidd ardal yr ewro.

Y clymblaid

Mae arweinydd y 5-Star, Luigi Di Maio, ac arweinydd y League, Matteo Salvini, eisoes wedi awgrymu bod cytundeb wedi’i ffurfio ddoe (dydd Sul, Mai 20) ynglŷn â phwy fydd yn cael ei benodi’n Brif Weinidog.

Ond mae Matteo Salvini wedi dweud na fydd ef na Luigi Di Maio yn rhoi eu henwau ymlaen, a hynny mewn ymgais i roi cydbwysedd i’r glymblaid newydd.

Cynllun y llywodraeth

Yr hyn sy’n achosi pryder yn y marchnadoedd ariannol yw’r cynllun ar gyfer llywodraeth a gafodd ei chyflwyno gan y ddwy blaid yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r cynllun yn cynnwys newidiadau i’r wladwriaeth les, isafswm cyflogau a threthi newydd, ynghyd â chyflwyno polisi llymach ar fewnfudwyr, a’r angen am ddeialog well gyda Rwsia ar faterion tramor ac economaidd.