Roedd y llanc sydd wedi’i amau o gyflafan mewn ysgol uwchradd yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau wedi saethu dipyn at yr heddlu wrth iddyn nhw geisio ei arestio.

Cafodd 10 o bobol eu lladd yn yr ymosodiad ar Ysgol Uwchradd Santa Fe ddydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod ganddo fe ddau ddryll yn ei feddiant, ynghyd â sawl math o ffrwydron – ond mae lle i gredu nad oedd ganddo’r deunyddiau priodol i achosi ffrwydrad.

Ymhlith y rhai a gafodd eu lladd roedd dwy athrawes ac wyth o fyfyrwyr. Ond mae lle i gredu ei bod e wedi dewis peidio â lladd myfyrwyr yr oedd yn eu hoffi, yn y gobaith y bydden nhw’n adrodd ei stori yn y dyfodol.

‘Sioc’

Aeth gerbron llys trwy gyswllt fideo o’r ddalfa ddydd Gwener i wynebu cyhuddiadau.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad eu bod nhw wedi cael “sioc” ac “wedi drysu” yn dilyn y digwyddiad – y lladdfa fwyaf ers i 17 o bobol gael eu lladd yn Fflorida ym mis Chwefror.

Mae 14 o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, a dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.