Mae tri achos newydd o Ebola wedi eu cadarnhau yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Gan fod y rhain yn Mbandaka, dinas o dros filiwn o bobol, mae ofnau bod y feirws marwol yn lledaenu mewn ardaloedd trefol.

Mae bellach 17 o achosion o Ebola wedi eu cadarnhau, gan gynnwys un farwolaeth, 21 o achosion tebygol a phump o rai sy’n cael eu hamau.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi rhybuddio bod y risg i’r firws ledaenu o fewn y Congo yn “uchel iawn” ac yn “uchel” mewn naw o wledydd cyfagos.