Mae nifer yr achosion o’r feirws Ebola ar gynnydd yn y Congo. Wrth i’r achos cyntaf gael ei gofnodi mewn dinas yn y wlad, mae yna ofn gwirioneddol y bydd yn lledaenu’n gynt.

Mae gweinidog iechyd y Congo wedi cadarnhau fod y feirws bellach wedi cyrraedd prifddinas talaith Equateur yng ngogledd-orllewin y wlad.

Mae dau achos o Ebola, meddai Oly Ilunga, wedi’u cofnodi yn ardal Wangata, sy’n cynnwys dinas Mbandaka, tua 90 milltir o ardal wledig Bikoro, lle tarddodd yr achosion diweddaraf.

Mae’r wlad bellach yn wynebu “cyfnod wrban”, gyda pheryg go iawn i’r feirws ledaenu’n gyflym o un person i’r nesaf. Mae arbenigwyr eisoes wedi dod o hyd i 500 o bobol a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r haint, ac maen nhw’n cadw llygad barcud arnyn nhw.