Mae Iran wedi arwyddo cytundeb gyda chonsortiwm o wledydd Prydain i ddatblygu maes olew yn ne’r wlad, yn ôl y cyfryngau yno.

Dyma’r cytundeb cyntaf i Iran arwyddo gydag un o gynghreiriaid yr Unol Daleithiau ers i Donald Trump gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf ei fod am dynnu allan o’r cytundeb niwclear ag Iran.

Mae’n debyg bod cyfarwyddwr y cwmni, Pergas International Consortium, Colin Rowley, wedi arwyddo’r cytundeb â phennaeth National Iranian South Oli Co, Bijan Alipour, ym mhresenoldeb llysgennad y Deyrnas Unedig yn Iran, Rob Macaire.

Pe bai’r cytundeb hwn yn troi’n gontract, fe fydd angen mwy na biliwn o ddoleri (£740) er mwyn cynhyrchu gwerth 200,000 barel o olew y dydd yn ystod y degawd nesaf.

Mae’r maes olew, a gafodd ei agor 55 mlynedd yn ôl, ar hyn o bryd yn cynhyrchu 120,000 barel y dydd.