Mae bws yn cario teithwyr o wledydd Prydain yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal, wedi mynd ar ei ben i mewn i gefn lori goncrit. Mae 15 o’r teithwyr wedi’u hanafu, pedwar ohonyn nhw’n ddifrifol.

Yn ol heddlu lleol, roedd y teithwyr yn amrywio rhwng 9 a 77 oed. Chafodd yr un plentyn ei anafu.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau hefyd mai bws o Sbaen oedd o, a’i fod yn teithio o Portimao, sydd tua 120 milltir i’r de o brifddinas Portiwgal, Lison, ar ei ffordd tua maes awyr Faro.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 8yb ddydd Mercher (Mai 16) mewn tywydd sych a heulog. Mae’r heddlu wedi dechrau ymchwilio i achos y ddamwain.