Mae tywysydd wedi dringo mynydd ucha’r byd am y 22ain tro, gan osod record newydd ar gyfer y nifer mwyaf o weithiau i neb gyrraedd copa Evererst.

Fe gyrhaeddodd Kami Rita y brig fore heddiw (dydd Mercher, Mai 16) gyda thim o ddringwyr o bob cwr o’r byd a chyd-Sherpa, ac mae bellach ar ei ffordd i lawr i wersyll islaw.

Cyn ei gamp heddiw, roedd Kami Rita, 48, yn un o’r tri dyn oedd wedi gosod y record flaenorol o ddringo’r copa 29,000 troedfedd am yr 21ain waith.

Cyn gadael am y mynydd y tro hwn, fe ddywedodd ei fod eisiau dringo Everest 25 o weithiau.

Mae mynydda yn y gwaed. Roedd ei dad ymysg y tywyswyr proffestiynol cyntaf wedi i Nepal agor ei drysau i ddringwyr yn 1950, ac mae ei fraw hefyd wedi dringo Everest 17 o weithiau.