Mae Gogledd Corea’n bygwth tynnu’n ôl o uwchgynhadledd gyda’r Unol Daleithiau yn sgil ffrae tros ildio arfau niwclear.

Mae disgwyl i Kim Jong Un gyfarfod â’r Arlywydd Donald Trump ar Fehefin 12.

Ond mae dirprwy weinidog tramor y wlad, Kim Kye-gwan wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o wneud datganiadau peryglus ac o fod â “bwriadau sinistr”. Mae’n rhoi’r bai am y sefyllfa ar Gynghorydd Diogelwch yr Unol Daleithiau, John Bolton.

“Dydyn ni ddim yn cuddio ein teimladau o atgasedd tuag ato,” meddai Kim Kye-gwan.

Mae Gogledd Corea wedi dweud eisoes eu bod yn barod i waredu eu harfau niwclear, ond mae’r manylion yn dal yn aneglur.

Mae’r wlad wedi gwahodd cyfryngau’r byd i seremoni dadarfogi swyddogol ar ei phrif safle niwclear yn ddiweddarach y mis hwn.