Mae saith person wedi’u canfod yn farw mewn tŷ yn ne orllewin Awstralia.

Cafodd swyddogion heddlu eu galw  i Osmington yn ystod oriau mân y bore, a daethon nhw o hyd i gyrff tri oedolyn, pedwar plentyn a dau wn.

Mae’r heddlu’n credu  eu bod wedi’u saethu’n farw.

Pe bai hynny’n wir, buasai’n golygu mai dyma yw’r ymosodiad gwaethaf o’i fath yn Awstralia ers degawdau.

Cafodd 35 eu lladd gan ddyn â dryll yn Tasmania yn 1996, ac yn sgil hynny cafodd rheolau gynnau llym eu cyflwyno – does dim ymosodiad tebyg wedi bod ers hynny.